Y Tymor mor belled

25th October

Ar ôl dechreuad gwych i'r tymor tydi pethau ddim wedi mynd o blaid Abertawe dros yr wythnosau diwethaf. Mi enillodd Yr Elyrch eu tair gêm gyntaf o'r tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr gan gynnwys y fuddugoliaeth gofiadwy yna yn Old Trafford yn erbyn Manchester United. Ond tydyn nhw ddim wedi ennill yn y gynghrair ers diwedd mis Awst. A bellach mae nhw heb fuddugoliaeth yn eu pum gem gynghrair ddiwethaf.
Mae hi'n hynod o bwysig felly eu bod nhw'n sicrhau'r tri phwynt heddiw gartref yn erbyn Caerlyr. Mae angen ryw fath o ganlyniad arnyn nhw i ail-danio eu tymor. Mi fysa buddugoliaeth heddiw hefyd yn codi'r hyder yn y garfan cyn rhediad o gemau anodd. Lerpwl oddi cartref yng Nghwpan Capital One, cyn gemau yn erbyn Everton, Arsenal a Man City yn y gynghrair. 
Heb unrhyw amheuaeth mi fysa Garry Monk wedi bodlonni ar fod yn yr 8fed safle yn y gynghrair ar ôl 8 gêm. Ond dwi'n siwr ei fod o hefyd yn siomedig efo'r ffordd mae nhw wedi ildio pwyntiau dros yr wythnosau diwethaf.  Mae pawb yn ymwybodol nad oedd Monk yn hapus efo perfformiad y dyfarnwr Michael Oliver yn y golled yn erbyn Stoke y penwythnos diwethaf. Ond y gwir plaen amdani ydi y dylsen nhw fod wedi sgorio mwy o goliau yn yr hanner cyntaf. Fe ddylsa Ki Sung-Yeung a Gylfi Sigurdsson wedi gwneud yn well o flaen gôl. Pe tai'r cyfleon yna wedi cael eu sgorio yna efallai na fuasai'r penderfyniad gan Oliver i roi cic o'r smotyn i Victor Moses wedi bod mor dyngedfennol.
Mi oedd y gêm gyfartal yn erbyn Newcastle hefyd yn enghraifft wych o'r Elyrch yn methu cyfleon da i sgorio. Fe ddylsen nhw fod wedi bod ar y blaen o o leiaf dwy gôl cyn i Papiss Cisse sgorio ei ail o'r prynhawn i'w gwneud hi'n 2-2. 
Yn bersonol mi fusawn i yn hoffi gweld Monk yn gwneud newidiadau i'r tîm ar gyfer y gêm heddiw. Mae'r asgellwyr Nathan Dyer a Wayne Routledge wedi dechrau pob gêm gynghrair y tymor yma. Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i roi cyfle i Jefferson Montero ddechrau gêm. Mae o wedi creu argraff bob tro mae o wedi dod ymlaen fel eilydd y tymor hwn. Mae o'n hynod o gyflym a mae ei wasanaeth mewn i'r cwrt cosbi bob tro o'r safon uchaf. Ac efallai ei bod hi'n amser hefyd i arbrofi efo Wilfred Bony a Bafetimbi Gomis yn y llinell flaen. Tydi'r ddau dal ddim wedi dechrau gêm efo'i gilydd y tymor yma. Mi fysa'r bartneriaeth yna yn cadw amddiffynwyr Caerlyr ar flaenau eu traed trwy gydol y gêm.
Mae angen buddugoliaeth ar Abertawe heddiw - a dwi'n ffyddiog y bydd y cefnogwyr yn dathlu ar ddiwedd y gêm. 
A fe allwch chi glywed sylwebaeth o bob gêm Abertawe ar BBC Radio Cymru