Ymladd Tan Y Diwedd

30th March

Gadewch i ni fod yn deg, does dim lot o bethau negyddol wedi bod ynghlwm â Chlwb Pêl Droed Abertawe tymor 'ma (ry'n ni'n 9fed yn yr Uwch Gynghrair a ry'n ni 'di ennill Cwpan y Gynghrair) ond ma'r canlyniadau ers i ni ymddangos yn Wembley a chyrraedd y 40 pwynt allweddol 'na yn codi pryder. Roedd 'na fuddugoliaeth yn erbyn Newcastle er gwaethaf perfformiad fflat yn syth ar ôl ein diwrnod mas yng nghartref pêl-droed Lloegr, ac ers 'ny mae'r perfformiadau wedi cario 'mlaen yn yr un modd (ydy 'gwael' yn air rhy gras?) ond colli fu'r hanes. Y peth gwaethaf am y ddwy gêm ddiwethaf (yn erbyn West Brom ac Arsenal) yw fod y gwrthwynebwyr ddim hyd yn oed wedi chwarae cystal a 'ny eu hunen a bydde tîm y Swans unrhywle'n agos i dop eu gêm wedi cipio'r chwe phwynt.
 Pryderi am y canlyniadau diweddar ma' Ashley Williams hefyd a dwedodd e mewn cyfweliad diweddar gyda'r BBC fod e'n poeni bydd y tîm yn ddifetha blwyddyn wych trwy orffen y tymor yn wael. Wnaeth Williams awgrymu fod angen ysgogi ambell i chwaraewr ond sai'n deall pam. Mae pob un ohonyn nhw yn chwaraewr proffesiynol a dylse nhw fod yn neud popeth mae nhw'n gallu i ennill bob gêm. Hyd yn oed os dyw ennill er mwyn ennill ddim yn ddigon iddyn nhw mae 'na resymau ariannol dros gario mlaen i lwyddo gyda mwy o arian ar gael i'r clwb am bob safle yn y gynghrair a'r arian 'ny yn cael ei rannu rhwng y chwaraewyr. 
 Hefyd, yn ein 8 gêm ola' ry'n ni'n chwarae yn erbyn 4 o dimau 'mawr' yr Uwch Gynghrair a mae 'na broblem fawr os oes 'na ddiffyg ysgogiad ar y chwaraewyr i gystadlu yn erbyn Spurs, Man City, Chelsea a Man Utd. Chwarae yn erbyn y timau 'ma a theithio i lefydd fel Old Trafford a Stamford Bridge yw un o'r prif resymau dros chwarae ar y lefel uchaf felly dyle'r garfan gyfan fod yn ysu i chwarae mewn gêmau fel rhain. 
 Felly yn fras mae dal digon i chwarae amdani yn ein 8 gêm ola' a mae'n rhaid i'r chwaraewyr sylweddoli nad y'n nhw ar eu gwyliau eto. Bydde diwedd fflat i'r tymor yn siom enfawr, yn enwedig ar ôl yr holl lwyddiant ry'n ni 'di cael mor belled, felly gadewch i ni orffen ar nodyn uchel gan ddechrau trwy ennill yn erbyn Tottenham heddi'.