Yr Unig Dîm yng Nghymru

3rd May

Llaw i fyny os ydych chi'n teimlo'n fwy ysgafn yn yr eisteddle heddiw? Naill os mae eich dillad yn fwy sych na phrynhawn Sadwrn diwethaf, neu leoliad y clwb yn yr Uwch Gynghrair yn y nos? Mi fyddwn i'n hystyried y ddau heb feddwl amdani i fod yn hollol onest!
Wel, dwi ddim yn credu gwnes i gael profiad fel prynhawn diwethaf ers y gêm yn erbyn Notts Fforest pedwar tymor yn ôl. Roedd lefel y sŵn gan bawb o'r eisteddle yn swnllyd tu hwnt, ac yn esiampl arbennig o ba mor wych mae'r awyrgylch yn gallu fod yny Liberty. Allai'r hanner cyntaf ddim wedi dechrau yn well wrth i Bony rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd ar ôl deg munud. Fe welsom ni Villa yn cynyddu'r pwysau yn sydyn wrth i'r Swans fynd ar y blaen, a felly yn boenus i weld nhw'n cyfartalu'r sgôr ar ôl rhyw un ar bymtheg funud arall. Ond, wnaeth y saeson ddim canu am amser hir wrth i Jonjo Shelvey tynnu'r hud allan o'i boced yng nghanol y cae. Gôl y tymor os bosib? Gan gymorth Shelvey, wnaeth hwn osod y dôn ar hanner amser gyda llawer o awdurdod. Unwaith eto, roedd y Swans yn cadw meddiant y bêl trwy gydol yr ail hanner heb unrhyw fygythiad o'r gwrthwynebwyr. Felly, wnaeth y ddwy gôl gan Hernandez a'r gic o'r smotyn gyda Bony orffen perfformiad cryf gan y Swans ar y dydd ac os bosib, sicrhau tymor arall yn yr Uwch Gynghrair.
Heb unrhyw dadlau, mae'r gwrthwynebwyr heddiw wedi bod yn becyn syndod y tymor. Mae nhw wedi cynhyrchu pêl-droed gwych gyda'r Llewod Adam Lallana, Rickie Lambert, Jay Rodriguez a Luke Shaw yn arwain llwyddiant garfan.
Gyda'r Swans bellach yn ddiogel ar ôl ennill cefn-wrth-gefn am y tro cyntaf y tymor hwn, mi fydd pawb yn edrych iddyn nhw barhau gyda'r llwyddiant am y tro olaf yn y Liberty y tymor hyn, ac hefyd bant yn erbyn Sunderland.
Pob lwc i Garry ar fechgyn!
Edrychaf ymlaen i lwyddiant tymor nesaf! 
Cofiwch, taw dim ond un tîm sydd yng Nghymru!
Pwy ydy ni? Jack Army!